Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, 
 Prif Weinidog Cymru

Pwyllgor Newid Hinsawdd, 
 yr Amgylchedd a Seilwaith
 —
 Climate Change, Environment, 
  and Infrastructure Committee 
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 SeneddHinsawdd@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddHinsawdd
 0300 200 6565
 —
 Senedd Cymru 
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 SeneddClimate@senedd.wales
 senedd.wales/SeneddClimate
 0300 200 6565
 

 

 

 


1 Gorffennaf 2022

Annwyl Mark,

Datganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog: y Bil llywodraethu amgylcheddol

Yn ei gyfarfod ddoe, clywodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ('y Pwyllgor') dystiolaeth gan Asesydd Interim Diogelu'r Amgylchedd ('yr Asesydd Interim') a rhanddeiliaid ar weithrediad parhaus mesurau llywodraethu amgylcheddol interim Cymru ('mesurau interim ').

 

Mae bron i bedair blynedd ers i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ddeddfu i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau mewn llywodraethiant amgylcheddol ar ôl Brexit yng Nghymru. Fis Mawrth 2021, rhoddwyd mesurau interim ar waith yn sgil penodi’r Asesydd Interim. Er ein bod yn cydnabod y gwaith gwerthfawr sy'n cael ei wneud gan yr Asesydd Interim, mae'r mesurau interim yn bell o fod yn foddhaol. Mae bylchau sylweddol ac annerbyniol yn nhrefniadau llywodraethiant amgylcheddol Cymru ac mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy fel mater o flaenoriaeth.

 

Diben y mesurau interim oedd rhoi amser i Lywodraeth Cymru ddatblygu a sefydlu trefniadau llywodraethiant parhaol newydd ac yn benodol, Comisiwn yr Amgylchedd i oruchwylio’r broses o roi cyfraith amgylcheddol ar waith. Dyma gydnabod yr her o ddatblygu trefniadau llywodraethiant cadarn, effeithiol a pharhaus sy’n diwallu anghenion Cymru. Serch hynny, 15 mis ar ôl rhoi’r mesurau interim ar waith, nid ydym wedi gweld tystiolaeth o unrhyw gynnydd. Atgyfnerthu hynny wnaeth y cyfarfod ddoe. Dywedodd yr Asesydd Interim wrthym mai trafodaethau anffurfiol yn unig y mae hi wedi’u cael gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cynigion ar gyfer y trefniadau llywodraethiant newydd a fydd yn disodli ei rôl. At hynny, cawsom ar ddeall gan randdeiliaid nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw waith diweddar gan Lywodraeth Cymru ar y mater o dan sylw. Yn eu geiriau hwy, “mae’n teimlo fel bod gwaith [ar drefniadau parhaol] wedi’i barcio”. 

 

Rydym yn gynyddol bryderus – gyda threigl amser a chyda mesurau interim ar waith – y gallai unrhyw ymdeimlad o frys y mae’n bosibl y bu gan Llywodraeth Cymru o ran deddfu i fynd i'r afael â'r bylchau mewn llywodraethiant ar ôl Brexit fod wedi mynd ar gyfeiliorn.

 

Wrth inni aros i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno yng Nghymru, mae gan bob gwlad arall yn y DU drefniadau llywodraethiant amgylcheddol parhaol ar waith erbyn hyn, gyda chyrff llywodraethiant pwrpasol ar waith. Ni ellir cyfiawnhau’r ffaith bod gan ddinasyddion Cymru lai o fynediad at gyfiawnder amgylcheddol na dinasyddion yn rhannau eraill o’r DU. Rhaid inni atal enw da Cymru rhag cael ei israddio o fod yn genedl sy'n rhoi'r amgylchedd a datblygu cynaliadwy wrth ei gwraidd, i un sydd â'r strwythurau llywodraethiant amgylcheddol gwannaf yng Ngorllewin Ewrop.

 

Ers dechrau’r Chweched Senedd, rydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil llywodraethiant amgylcheddol. Wrth roi tystiolaeth i’r Pwyllgor hwn ar 15 Mehefin 2022, fe’i gwnaed yn glir gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mai chi – fel Prif Weinidog – fyddai’n penderfynu ar amseriad y Bil. Dyma ysgrifennu, felly – cyn eich datganiad deddfwriaethol arfaethedig ar 5 Gorffennaf 2022 – i fynegi ein galwadau o’r newydd am gyflwyno’r Bil fel mater o flaenoriaeth.

 

Rwy'n anfon copi o'r llythyr hwn at Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, a Huw Irranca-Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

 

Hyderwn y byddwch yn myfyrio ar yr uchod cyn gwneud eich datganiad, ac fe fyddem yn croesawu ymateb i'r llythyr hwn maes o law.

 

Yn gywir,

Text, letter  Description automatically generated

Llyr Gruffydd AS

Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Yr Amgylchedd a Seilwaith

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg / We welcome correspondence in Welsh or English.